Eurostar
Fe wnaeth y rhan fwyaf o drafnidiaeth gyhoeddus Brwsel ddod i stop heddiw wrth i weithwyr y sector cyhoeddus gynnal protestiadau dros doriadau’r llywodraeth.

Nid oedd modd i bobol ddefnyddio trenau rhyngwladol fel yr Eurostar a Thalys, y system reilffordd genedlaethol SNCB, gwasanaethau bws na threnau tanddaearol.

Roedd gorsaf y Brussels Nord ynghau hefyd ac fe gafodd trenau i Frwsel o Baris a Llundain eu heffeithio.

Dywedodd undeb ACOD sy’n arwain y protestiadau eu bod yn adweithio gan fod toriadau yng nghyllidebau’r sefydliadau cyhoeddus am arwain at golli gwasanaethau cyhoeddus.

Mae disgwyl i’r streic bara tan heno.