Wall Street
Mae masnachwr ariannol a gafodd ei gyhuddo o helpu i achosi  chwalfa ariannol gwerth biliynau o ddoleri yn Wall Street, wedi dweud y bydd yn herio cais i’w estraddodi i America.

Cafodd Navinder Singh Sarao, 36, o Lundain ei arestio ddoe ar gais gan yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau yn dilyn honiadau ei fod wedi cynorthwyo’r chwalfa a cholledion gwerth £500 biliwn yn 2010.

Mae’n wynebu 22 o gyhuddiadau gan gynnwys twyll a dylanwadu ar y farchnad stoc. Mae erlynwyr hefyd yn honni bod Sarao a’i gwmni Nav Sarao Futures Limited wedi ennill £26 miliwn yn anghyfreithlon dros gyfnod o bum mlynedd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol gan Lys Ynadon Westminster, Llundain ar yr amod ei fod yn darparu sicrwydd ariannol o £5 miliwn.

Fe fydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal ym mis Awst.