Mae gwaith ymchwil gafodd ei gwblhau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi rhybuddio bod alcohol rhad mewn archfarchnadoedd yn arwain at ymddygiad treisgar ac y byddai gostwng prisiau alcohol ymhellach yn “gamgymeriad”.
Er bod nifer y bobol gafodd eu hanafu mewn digwyddiadau treisgar yn 2014 10% yn llai na 2013, fe fu’n rhaid i 211,514 o bobol gael triniaeth frys mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr y llynedd.
Mae’r ffigwr hwn, meddai’r arbenigwyr, yn “llawer rhy uchel”.
Dynion rhwng 18 a 30 oed sy’n cyflawni’r rhan fwyaf o droseddau treisgar yn ôl yr ymchwil:
“Mae’n adlewyrchu bod alcohol mewn archfarchnadoedd yn parhau yn llawer yn rhy rhad ac rydym yn gwybod bod alcohol rhad yn golygu mwy o yfed a mwy o drais yn sgil hyn,” meddai’r Athro Jonathan Shepherd o Brifysgol Caerdydd fu’n arwain yr ymchwil.
Gostyngiad
Wrth drafod y gostyngiad yn nifer y bobol gafodd eu hanafu mewn digwyddiadau treisgar y llynedd, ychwanegodd:
“Rwy’n credu ein bod yn datblygu i fod yn gymdeithas sydd hefo mwy o empathi, gyda chysylltiadau llawer gwell ar wefannau cymdeithasol.
“Ond nid yw hi’n fêl i gyd; mae ein hymchwil yn dangos bod nifer yr achosion o drais mewn cysylltiad ag alcohol ar ei uchaf ar benwythnosau.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw hi’n mynd yn haws i brynu alcohol.”