Fe fydd yr angen i ddatblygu gwasanaethau carchar i ferched o Gymru yn cael ei drafod gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd heddiw.
Ar hyn o bryd, mae pob merch o Gymru sy’n cael ei hanfon i’r carchar yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr gan nad oes darpariaeth yng Nghrymu.
Ond yn hytrach nag adeiladu carchar yng Nghymru, canolbwyntio ar leihau nifer y merched sy’n cyflawni troseddau sy’n rhaid gwneud, yn ôl academyddion.
Adferiad yn y gymuned
Wrth siarad cyn y cyfarfod ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd Jenny Earle o’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai mai ychydig iawn o ferched sydd wedi cyflawni troseddau difrifol neu dreisgar ac y byddai adferiad yn y gymuned yn ateb gwell na’u cadw mewn carchardai:
“Mae hyn yn benodol wir am ferched o Gymru sy’n cael eu gyrru cannoedd o filltiroedd i ffwrdd am fan droseddau.
“Mae’n rhaid datblygu syniadau i geisio rhwystro merched rhag troseddu a chefnogi gwasanaethau i ferched – dim adeiladu carchardai costus fyddai’n creu problemau ar gyfer y dyfodol.”
Tua 225 o ferched Cymru sydd mewn carchardai ar hyn o bryd.