Drymiwr AC/DC, Phil Rudd
Mae drymiwr y band AC/DC Phil Rudd yn wynebu saith mlynedd yn y carchar wedi iddo bledio’n euog i fygwth lladd dyn ac o fod a’r cyffur methamphetamine a marijuana yn ei feddiant.
Mewn llys yn Tauranga, Seland Newydd fe wnaeth Phil Rudd gydnabod ei fod wedi cynnig arian, cerbydau a thŷ i rywun ladd y dyn, a’i fod wedi dweud wrtho ei fod yn mynd i’w ladd.
Mae’r drymiwr 60 oed o Awstralia wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos o flaen llys eto ym mis Mehefin.
Ar hyn o bryd, nid yw’n glir a fydd gan Phil Rudd ddyfodol hefo’r band AC/DC ar ôl bod yn aelod am dros 40 mlynedd.
Y Cymro Chris Slade sydd yn cymryd ei le ar gyfer y daith Rock Or Bust.