Y Pab Ffransis (llun: PA)
Mae’r Pab Ffransis yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd wneud mwy i helpu’r Eidal gyda’r niferoedd cynyddol o ffoaduriaid sy’n cyrraedd y wlad.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae bron i 200,000 o bobl wedi mentro’u bywydau ar gychod peryglus dros y Môr Canoldir i ffoi rhag rhyfel, erledigaeth a thlodi yn Affrica.

Ar ôl cyfarfod arlywydd yr Eidal, Sergio Mattarella yn y Fatican, dywedodd y Pab ei bod yn amlwg bod ar yr Eidal angen help gan wledydd eraill.

Gan ddiolch i’r Eidal am achub y ffoaduriaid a rhoi lloches iddyn nhw, apeliodd am “ymrwymiad ehangach ar lefel Ewropeaidd a rhyngwladol.”

Dywed yr Eidal y bydd yn parhau i achub mudwyr sy’n cael eu gadael allan ar y môr gan smyglwyr, ond mae’n mynnu bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi mwy o gymorth i’w cysgodi a’u hachub.