Mae pump o Awstraliaid yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio ymosodiad treisgar ar seremoni coffáu cyn-filwyr.

Yn ôl diprrwy gomisiynydd heddlu Awstralia, Neil Gaughan, roedd y rhai gafodd eu harestio yn cynnwys dau ddyn 18 oed a oedd yn paratoi ar gyfer ymosod ar seremoni Dydd ANZAC yn Melbourne. Cafodd un arall 18 oed ei arestio ar gyhuddiadau’n ymwneud ag arfau, ac mae dau arall, 18 a 19 oed yn y ddalfa i gynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Cynhelir Dydd ANZAC ar 25 Ebrill bob blwyddyn i goffáu colledion yr Australian and New Zealand Army Corps yn Nhwrci yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd arwyddocâd arbennig i’r diwrnod eleni gan ei fod yn nodi canmlwyddiant cyflafan Gallipoli.

Mae pryder cynyddol yn Awstralia am y bygythiad o du cefnogwyr Islamic State yn y wlad.

Mae o leiaf 110 o Awstraliaid wedi mynd i Irac a Syria i ymladd gydag eithafwyr Islamaidd, ac mae asiantaeth heddlu cudd Awstralia yn ymchwilio i dros 400 o achosion yn eu cyrchoedd gwrth-derfysgaeth.