Mae’n union 70 mlynedd ers i wersyll crynhoi Bergen-Belsen yng ngogledd yr Almaen ryddhau’r carcharorion rhyfel olaf.
Bu farw 52,000 o bobol o ganlyniad i gael eu cadw yn y gwersyll – naill ai ar y safle neu’n fuan ar ôl cael eu rhyddhau.
Cafodd y gwersyll ei sefydlu ar ymyl maes hyfforddi milwrol Bergen ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, a’i ehangu’n sylweddol erbyn 1941.
Ar ôl i’r Almaen ymosod ar yr Undeb Sofietaidd, cafodd 21,000 o garcharorion rhyfel eu hanfon i Bergen-Belsen tan Hydref 1941.
Bu farw 14,000 o garcharorion rhyfel yn y gwersyll rhwng mis Gorffennaf 1941 a mis Ebrill 1942.
Daeth yn wersyll cyfnewid ar gyfer carcharorion Iddewig yn 1943.
Pan gafodd y carcharorion olaf eu rhyddhau yn 1945 ar ddiwedd y rhyfel, daethpwyd o hyd i filoedd o gyrff oedd heb eu claddu a degau o filoedd o garcharorion oedd yn ddifrifol wael.