Mae cariad dyn o wledydd Prydain fu farw yn nhrychineb Germanwings yn yr Alpau’n dweud nad yw hi’n beio’r cyd-beilot Andreas Lubitz am yr hyn ddigwyddodd.
Penderfynodd Paul Bramley, 28, newid ei gynlluniau teithio er mwyn teithio ar yr awyren gafodd ei gyrru i mewn i ochr mynydd, gan ladd 150 o bobol.
Cafodd y peilot ei daflu allan o’i sedd a’i gloi allan o’r caban cyn i Lubitz gymryd rheolaeth o’r awyren.
Ond dywed cariad Bramley, Anneli Tiirik, nad yw hi’n beio Lubitz, oedd wedi cuddio nodyn gan ei feddyg ar ddiwrnod y drychineb yn dweud nad oedd yn iach i fod yn y gwaith.
Daeth i’r amlwg wedi’r drychineb fod Lubitz wedi bod yn ymchwilio i ddulliau o gyflawni hunanladdiad.
Dywedodd Tiirik wrth bapur newydd y Sunday People: “Alla i ddim casáu na beio rhywun am fod yn sâl.
“Yn hytrach na beio pobol sâl a cheisio deall eu cymhellion o bersbectif meddwl iach, dylen ni ganolbwyntio ar newid y drefn sy’n galluogi pobol i fod mewn grym.”
Ychwanegodd ei bod hi’n gobeithio y byddai cwmnïau awyr yn gofalu am iechyd meddwl eu staff yn y dyfodol, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw’n derbyn sgan ar yr ymennydd.
Roedd disgwyl i Bramley lanio ym Manceinion ar y nos Lun, ond newidiodd ei feddwl a phenderfynu teithio ar y dydd Mawrth.
Roedd Paul Bramley ar ei ffordd adref o wyliau yn ninas Barcelona pan ddigwyddodd y drychineb.
Ymhlith y rhai eraill o wledydd Prydain a gafodd eu lladd roedd Martyn Matthews, 51, o Wolverhampton, y babi saith mis oed Julian Pracz-Bandres o Fanceinion a’i fam Marina Bandres Lopez Belio, 37 oed.
Mae nifer o gwmnïu awyr eisoes wedi dechrau adolygu eu polisïau ers y digwyddiad er mwyn sicrhau bod dau aelod o staff yn aros gyda’i gilydd yn ystod teithiau.