Barack Obama (PA)
Fe fydd cam mawr yn digwydd yn y broses o wella’r berthynas rhwng Ciwba a’r Unol Daleithiau wrth i arweinwyr y ddwy wlad gyfarfod heddiw.

Fe fydd yr Arlywydd Barack Obama ac arweinydd Ciwba, Raul Castro, yn dod wyneb yn wyneb mewn Uwch-gynhadledd yn Panama.

Fe fydd y cyfarfod yn paratoi’r ffordd at adfer cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ar ôl mwy na hanner canrif, gyda disgwyl i’r Unol Daleithiau godi gwaharddiad ar ymwneud â’r ynys Gomiwnyddol yn y Caribî.

Ond mae gwleidyddion Gweriniaethol ac alltudion o Giwba yn yr Unol Daleithiau yn gwrthwynebu’r symudiad.

‘Trïo rhywbeth newydd’

“D’yn ni ddim eisiau cael ein caethiwo gan y gorffennol,” meddai Barack Obama, a oedd wedi cyhoeddi llacio yn yr elyniaeth ddiwedd y llynedd.

“Pan fydd rhywbeth yn methu â gweithio am 50 mlynedd, d’ych chi ddim yn parhau i’w wneud. R’ych chi’n trio rhywbeth newydd.”

Y cam mawr nesa’ fydd dileu enw Ciwba o restr yr Unol Daleithiau o wladwriaethau sy’n cefnogi brawychwyr – mae arolwg o hynny eisoes wedi ei wneud.

Fe fyddai hynny’n agor y drws i fwy o fasnach rhwng y ddwy wlad – mae embargo wedi bod ers yn fuan ar ôl i frawd, Raul Castro, Fidel, gipio grym yng Nghiwba a chreu trefn Gomiwnyddol yno.