Simon Thomas - rhan o gyflwyniad y Blaid
Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw eisiau gweld Treth Ar Werth yn cael ei gostwng i 5% ar gyfer y diwydiant adeiladu er mwyn hybu’r sector.
Fe fydd y blaid hefyd yn galw am ragor o fuddsoddiad mewn prosiectau adeiladu mawr yng Nghymru, wrth i rai o’u hymgeiswyr ymweld â safle adeiladu yn Abertawe heddiw.
Mae Plaid Cymru eisoes wedi dadlau y dylai’r gyfradd Treth Ar Werth o 20% gael ei gostwng yn gyffredinol, ond fe fyddai gostyngiad pellach yn hwb i adeiladwyr, medden nhw, ac yn hwb i “gwmnïau bychan lleol”.
Atgyweirio cartrefi
Fe fydd ymgeiswyr Plaid Cymru dros Abertawe, Harri Roberts (Gorllewin Abertawe) a Dic Jones (Dwyrain Abertawe) yn trafod y cynlluniau ar ymweliad â safle adeiladu Hygrove yn Abertawe heddiw.
Mae disgwyl iddyn nhw ac AC Plaid Cymru Simon Thomas ddadlau y byddai’r diwydiant yn elwa o doriad TAW i 5% ac y byddai hynny’n galluogi adeiladwyr i wneud gwaith angenrheidiol ar stoc dai presennol Cymru.
“Mae adeiladu’r economi Gymreig wrth galon blaenoriaethau Plaid Cymru yn yr etholiad hwn,” meddai Harri Roberts. “Drwy dorri TAW ar adnewyddu tai i 5% gallwn ddarparu gwaith ychwanegol i adeiladwyr bychan lleol.
“Gyda stoc tai Cymru yn heneiddio, mae angen dirfawr ar waith atgyweirio i wella ansawdd ein cartrefi. Mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn cyflogi dros 100,000 o weithwyr.”
£1bn i isadeiledd
Mae disgwyl hefyd y bydd Plaid Cymru’n dadlau y gallai cynnydd yng ngwariant llywodraeth Prydain ar isadeiledd ddod a £1bn yn ychwanegol i’r wlad.
“Nid dim ond yn ein cartrefi mae’n rhaid buddsoddi. Mae ysgolion ac ysbytai ledled Cymru angen gwaith atgyweirio brys,” meddai Dic Jones.
“Byddai ein cynlluniau i gynyddu buddsoddiad isadeiledd yn sicrhau bron i £1 biliwn i Gymru bob blwyddyn, gan ein galluogi i wneud gwelliannau hanfodol i’n cyfleusterau trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus.”