Mae streic gan weithwyr ym meysydd awyr  Ffrainc wedi effeithio ar deithiau miloedd o bobol o Brydain oedd yn ceisio hedfan i’r wlad.

Bu’n rhaid i Ryanair ganslo 250 o deithiau o Birmingham, Luton, Leeds Bradford, Stansted a Dulyn heddiw ac mae EasyJet wedi canslo 118 o deithiau.

Undeb fwyaf Ffrainc, yr SNCTA, sydd wedi galw’r streic tros ddadl ynglŷn ag amodau gwaith.

Mae’r streic hefyd yn effeithio ar rannau eraill o Ewrop, gyda theithiau i Alicante a Malaga yn Sbaen a Marrakech yn Morocco yn cael eu canslo.

Mewn rhai achosion, nid oedd pobol yn medru hedfan o Ffrainc i Brydain chwaith.