Mae swyddogion diogelwch yn Tunisia wedi lladd naw o bobol oedd yn cael eu hamau o droseddau brawychol yn y wlad.

Roedd ffrwgwd rhwng y swyddogion a’r brawychwyr honedig yn rhanbarth Sidi Aich yn ne-orllewin y wlad, yn agos i’r ffin ag Algeria.

Cafodd nifer o bobol eu hanafu mewn digwyddiad arall yn rhanbarth Kef yng ngogledd y wlad.

Daw’r ddau ddigwyddiad yn dilyn gorymdaith fawr yn y brifddinas, Tunis yn erbyn eithafiaeth yn dilyn yr ymosodiad ar amgueddfa oedd wedi arwain at farwolaeth 24 o bobol.

Roedd y rhan fwyaf o’r rhai fu farw yn Amgueddfa Genedlaethol Bardo ar Fawrth 18 yn dramorwyr.