Swyddogion yr heddlu tu allan i amgueddfa Bardo yn Tunisia
Mae 23 aelod o’r grŵp sydd yn cael ei amau o gynllwynio ymosodiad ar amgueddfa yn Tunisia, gan ladd 21 o bobl, bellach wedi cael eu harestio.

Fodd bynnag mae’r heddlu yn dal i chwilio am dri pherson arall – dau berson o Foroco ac un o Algeria – maen nhw’n amau o fod yn rhan o’r cynllwyn.

Dywedodd y Gweinidog Cartref Najem Gharsalli bod y grŵp yn gysylltiedig â Oqba Ibn Nafaa, sydd yn rhan o rwydwaith Al Qaida.

Ar ôl yr ymosodiad brawychol ar 18 Mawrth fe geisiodd grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad – mae aelodau Oqba Ibn Nafaa wedi honni eu bod yn rhan o Al Qaida ac IS.

‘Wedi dal 80%’

Mae’n debyg fod y dynion arfog wnaeth ymosod ar yr amgueddfa hefyd yn cario ffrwydradau Semtex mewn beltiau a fyddai wedi achosi difrod sylweddol petai nhw wedi cael eu tanio.

Dywedodd y gweinidog fod 80% o’r bobl oedd yn y grŵp oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi cael eu harestio bellach.

Ychwanegodd Najem Gharsalli bod dau o’r rhai gafodd eu harestio wedi ymladd gyda brawychwyr yn Syria, a bod tri arall wedi dod o Libya, ble mae eithafwyr yn gysylltiedig ag IS yn tyfu’n fwy pwerus.

Cred llywodraeth Tunisia yw bod y grŵp wedi bod yn cynllwynio ymosodiadau pellach a’u bod yn drefnus o ran sut oedden nhw’n bwriadu gwneud hynny.