Mae’r Unol Daleithiau wedi dechrau ymosod o’r awyr ar Tikrit i geisio hybu ymgais byddin Irac i ail-gipio’r ddinas oddi wrth ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd yr Americanwyr mai Irac oedd wedi gofyn am eu cymorth, gan nodi cam newydd yn y frwydr yn erbyn yr eithafwyr Islamaidd.

Mynnodd cadlywydd ymgyrch filwrol yr UDA, yr is-gadfridog James Terry, eu bod yn targedu IS gyda bomiau manwl oedd yn golygu nad oedd pobl gyffredin yn cael eu lladd.

Roedd Irac yn wreiddiol wedi gofyn am help milwrol gan Iran wrth geisio ail-gipio dinas Tikrit, ond mae’r Americaniaid nawr wedi ateb y galw ar ôl i’r ymgais arafu.

Mae’r ymgais i geisio ail-gipio Tikrit – cyn-gartref Saddam Hussein – yn cael ei weld fel y cam cyntaf i geisio ail-gymryd dinas Mosul, sydd hefyd o dan reolaeth IS.