Mae disgwyl i Heinz brynu Kraft gan greu un o’r cwmnïau bwyd mwyaf yn y byd gydag incwm blynyddol o £18 biliwn.
Fe fydd y cwmni newydd yn cael ei alw’n Kraft Heinz Company.
Cafodd y cytundeb ei lunio gan berchennog Heinz, 3G Capital, a Berkshire Hathaway.
Mae’r cytundeb wedi cael ei gymeradwyo’n unfrydol gan fyrddau’r ddau gwmni.
Bydd yn rhaid i gyfranddalwyr Kraft gymeradwyo’r cytundeb.
Bydd cyfranddalwyr Heinz yn berchen ar 51% o’r cwmni, gyda chyfranddalwyr Kraft yn berchen ar 49%.
Mae cynnyrch Kraft yn cynnwys caws Philadelphia a Dairylea, Capri Sun, a choffi Maxwell House.
Daeth yn fwyaf adnabyddus yn y DU pan brynodd cwmni siocled Cadbury mewn cytundeb dadleuol gwerth £11.5 biliwn yn 2010.
Mae Heinz yn enwog am ei ffa pob, ketchup, HP Sauce a Lea & Perrins.