Credir bod o leiaf tri o Brydeinwyr ymhlith 150 o bobl gafodd eu lladd mewn damwain awyren yn yr Alpau yn ne ddwyrain Ffrainc, meddai’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Philip Hammond bod ei gydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau’r rhai gafodd eu lladd.

Roedd yr awyren Airbus A320 wedi dechrau plymio i’r ddaear am wyth munud cyn taro’r ddaear ger Digne yn yr Alpau.

Ymhlith y teithwyr roedd dau fabi, ac 16 o blant ysgol a dau athro a oedd wedi bod ar daith gyfnewid i Sbaen.

Un o’r rhai fu farw oedd y dyn busnes, Martyn Matthews, 50, o Wolverhampton.

Mae lle i gredu ei fod yn teithio i’r Almaen ar gyfer cyfarfod busnes gyda’r cwmni cynhyrchu ceir Huf, sydd â ffatri yn Dusseldorf.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod Paul Andrew Bramley, 28 o Hull, hefyd ymhlith y meirw.

Mae gŵr a thad dau o’r rhai fu farw, Pawel Pracz o Fanceinion, wedi dweud fod ei fyd “wedi chwalu” o golli ei wraig Marina Bandres Lopez-Belio a’u mab saith mis oed, Julian Pracz-Bandres. Roedd hi wedi teithio i Sbaen ar gyfer angladd ei hewythr.

‘Torcalonnus’

Yn San Steffan, talodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron deyrnged i’r rhai fu farw.

“Mae’n dorcalonnus i glywed am y plant ysgol, y babis, y teuluoedd y mae eu bywydau wedi dod i ben.”

Roedd yr awyren, sy’n berchen i gwmni Germanwings, yn teithio o Barcelona i Dusseldorf pan aeth i drafferthion fore ddoe mewn safle anghysbell ger Meolans-Revels.

Mae gweithwyr achub wedi dod o hyd i’r blwch du, sy’n hanfodol er mwyn ceisio darganfod beth achosodd y ddamwain ond mae’n debyg bod rhywfaint o ddifrod i’r blwch.

Roedd hofrenyddion wedi ail-ddechrau chwilio’r safle bore ma.

Roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr yn dod o’r Almaen a Sbaen ond mae’n debyg bod rhai o’r teithwyr fu farw yn dod o 13 o wahanol wledydd.