Mae Al-Qaida wedi meddiannu dinas yn ne Yemen, ac mae’r lluoedd diogelwch yno wedi ildio iddyn nhw.

Mae awdurdodau’r wlad yn dweud fod y gwrthryfelwyr wedi bod yn gyrru trwy ddinas al-Houta, prifddinas talaith Lahj, mewn tryciau pic-yp, yn chwifio baneri duon.

Maen nhw wedi meddiannu y prif faracs diogelwch, swyddfa’r llywodraethwr, ynghyd â phencadlys y gwasanaethau cudd-wybodaeth lle mae carcharorion al-Qaida yn cael eu dal yn gaeth.

Roedd lluodd y cyn-Arlywydd, Ali Abdullah Saleh, wedi ildio heb fawr o ymladd yn ôl. Fe gafodd y milwyr wnaeth wrthymosod eu lladd.