Jeremy Clarkson
Mae’r cyflwynydd teledu, Jeremy Clarkson, wedi cyhoeddi nad yw “protestio byth yn gweithio”, a hynny yn wyneb y miri sydd wedi codi yn dilyn ffrae rhyngddo a chynhyrchydd rhaglen Top Gear.

Yn ei golofn ym mhapur newydd The Sun, mae’n defnyddio cyfeiriadaeth o fywyd môr i ddisgrifio’r rhai sydd mewn grym wyneb yn wyneb â phobol fach sydd ar waelod y drefn.

Roedd yn gwneud ei sylwadau wedi i filiwn o bobol arwyddo cytundeb yn gofyn iddo gael cadw ei swydd yn cyflwyno’r rhaglen geir ar y BBC. Ond mae cannoedd o filoedd o bobol hefyd wedi arwyddo deiseb yn mynnu ei fod yn cael y sac gan y Gorfforaeth.

“Y gwir plaen yw hyn,” meddai yn y golofn. “Dyw protestio byth yn gweithio. Oherwydd mai plancton ydan ni i gyd. Ac mae’r byd yn cael ei redeg gan forfilod.

“O, fe allwch chi fod yn blancton mawr a phwysig, ond dydi hynny’n gwneud affliw o ddim gwahaniaeth os ydi’r morfil wedi penderfynu eich llyncu chi.

“Allwch chi gael miliwn o blancton bach eraill i wisgo i fyny a chwifio baneri, ond fydd Mr Morfil ddim yn talu sylw.”