Amgueddfa Bardo yn Tunisia
Fe fu dau o Brydeinwyr ynghanol ymosodiad yn Tunisia lle cafodd 21 o bobl eu lladd, meddai’r Swyddfa Dramor.
Cafodd 17 o dwristiaid eu lladd ar ôl i ddynion arfog ymosod ar amgueddfa genedlaethol y wlad yn y brifddinas, Tunis, ddoe.
Cafodd dau o bobl o Tunisia a dau ddyn arfog hefyd eu lladd, meddai Prif Weinidog y wlad, Habib Essid.
Cafodd y dynion arfog eu saethu gan swyddogion diogelwch yn un o’r ymosodiadau gwaethaf yn y wlad yn ystod y 13 mlynedd diwethaf. Roedd 44 o bobl hefyd wedi cael eu hanafu.
Roedd y twristiaid yn dod o Japan, yr Eidal, Colombia, Sbaen, Awstralia, Gwlad Pwyl a Ffrainc, meddai Habib Essid.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod dau Brydeiniwr wedi cael eu dal ynghanol yr ymosodiadau a’u bod yn cynnig cymorth iddyn nhw.