Mae dau blismon wedi cael eu saethu yn nhref Ferguson yn yr Unol Daleithiau, meddai swyddogion.
Dywedodd pennaeth yr heddlu yn Sir St Louis, Jon Belmar bod un plismon 32 oed wedi cael ei saethu yn ei wyneb a swyddog 41 oed wedi’i saethu yn ei ysgwydd.
Mae’n debyg bod yr ymosodiad wedi digwydd tu allan i orsaf yr heddlu yn Ferguson.
Cafodd ergydion eu tanio wrth i brotestwyr ymgynnull yno ddoe ar ôl i bennaeth yr heddlu yn y dref, Thomas Jackson, ymddiswyddo.
Mae tensiynau wedi bod yn cynyddu yn Ferguson ar ôl i’r llanc croenddu 18 oed, Michael Brown, gael ei saethu’n farw gan y plismon, Darren Wilson, y llynedd.
Thomas Jackson yw’r chweched person i ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo ar ôl i adroddiad gan yr Adran Gyfiawnder benderfynu na ddylai Darren Wilson, wynebu cyhuddiadau yn ymwneud a’r achos. Mae Wilson bellach wedi ymddiswyddo.