Mae tua 15 o ddynion arfog yn Ffrainc wedi dwyn gemau gwerth miliynau o Ewros o ddwy fan cyn taflu’r gyrwyr allan a ffoi.
Mae’r heddlu’n chwilio am y dynion yn Burgundy i’r de-ddwyrain o Baris.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.
Cafodd y ddwy fan eu darganfod wedi’u llosgi mewn coedwig gyfagos rhwng Paris a Lyon, ond doedd dim golwg o’r gemau.
Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau tebyg ar draws Ffrainc.
Ym mis Tachwedd, gwnaeth dau ddyn arfog ddwyn gemwaith o siop ym Mharis, ffoi ar draws afon Seine a chymryd gwystl cyn ildio i’r heddlu.
Yn 2013, cafodd gwerth 136 o ddoleri Americanaidd o emau eu dwyn o westy Carlton International yn ystod gŵyl ffilm Cannes.
Fis yn ôl, cafwyd wyth o bobol yn euog o ddwyn gwerth 92 miliwn o ddoleri Americanaidd o emau o siop Harry Winston ym Mharis yn 2008 yn un o’r achosion gwaethaf o ladrata yn hanes Ffrainc.