Kathleen Wyatt yn gadadel y Goruchaf Lys heddiw
Mae dynes wedi ennill cais am arian gan ei chyn-wr yn y Goruchaf Lys – bron i 20 mlynedd ar ôl iddyn nhw ysgaru.

Roedd Kathleen Wyatt o Drefynwy wedi gwneud cais am arian gan Dale Vince ar ôl iddo ddod yn filiwnydd mwy na degawd ar ôl iddyn nhw wahanu.

Roedd barnwr wedi dyfarnu yn yr Uchel Lys y dylid caniatáu cais Kathleen Wyatt ond cafodd y dyfarniad ei wyrdroi yn y Llys Apêl ar ôl i Dale Vince, 53, ddadlau bod y cais wedi ei wneud yn rhy hwyr.

Ond mae barnwyr yn y Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw o blaid cais Kathleen Wyatt.

Roedd y cwpl wedi cwrdd pan oedden nhw’n fyfyrwyr ac wedi priodi ym 1981. Yng nghanol yr 80au roedd y cwpl wedi gwahanu gan ysgaru yn 1992.

Yn y 90au fe ddechreuodd Dale Vince fusnes llwyddiannus ei hun gan lansio cwmni ynni gwyrdd, Ecotricity.

Yn 2011, fe wnaeth Kathleen Wyatt, 55, gais am arian gan ei chyn-wr. Clywodd y llys ei bod wedi gwneud cais am £1.9 miliwn ganddo.

Er bod un o’r barnwyr wedi dweud heddiw nad oes unrhyw debygolrwydd y bydd hi’n derbyn £1.9m dywedodd bod “posibilrwydd” y gallai hi dderbyn swm “gymharol fach”.

‘Gwallgof’

Mae Dale Vince wedi dweud bod y penderfyniad yn “wallgof.”

Mewn datganiad dywedodd: “Rwy’n siomedig nad yw’r Goruchaf Lys wedi penderfynu dod a’r achos yma i ben rŵan, mwy na 30 mlynedd ers i’r berthynas ddod i ben.

“Mae’r ddau ohonom ni wedi symud ymlaen gyda’n bywydau ac mae gennym ni deuluoedd ein hunain… Rwy’n teimlo bod ganddom ni i gyd hawl i symud ymlaen, heb edrych dros ein hysgwyddau. Fe allai hyn agor y drws i bobl sydd wedi cael perthynas fer chwarter canrif yn ôl i wneud cais am arian… mae’n wallgof yn fy marn i.”

Ond dywedodd Kathleen Wyatt ar ôl y gwrandawiad bod y dyfarniad “yn un pwysig.”

Cytundeb

Fe esboniodd Elizabeth Jones, sydd yn gyfreithwraig i gwmni Davies & Co yng Nghaernarfon, nad oedd achos o’r fath yn gwbl newydd ond ei fod yn gymharol anghyffredin mewn achosion o ysgariad.

Fe allai cynbartneriaid ddwyn achosion yn erbyn ei gilydd flynyddoedd ar ôl ysgariad os nad oedd cytundeb wedi cael ei lofnodi adeg yr ysgariad yn atal hynny.

Mae hyn yn cael ei alw’n ‘orchymyn cydsynio’ (consent order), rhywbeth sy’n sicrhau nad oes modd newid y setliad ariannol a gytunwyd adeg yr ysgariad.

Plant ac amser yn ffactorau

Dywedodd Elizabeth Jones,  sydd yn arbenigo mewn Cyfraith Teulu a Throsedd, fod cyplau sydd yn ysgaru bellach yn llawer mwy tebygol o gael gorchymyn cydsynio.

Ond mewn achosion ble nad oes gorchymyn cydsynio o’r fath fe allai rhywun oedd yn dod yn gyfoethog ymhen blynyddoedd wynebu achos gan y cynbartner o hyd.

Byddai achos o’r fath hefyd yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os oes plant o’r briodas, ond yn llai tebygol o lwyddo os oes llawer o amser wedi mynd heibio.

“Does dim rhaid cael consent order, ond os nad ydych chi yn gwneud fe all pethau fel hyn ddigwydd,” esboniodd Elizabeth Jones.

“Os ydych chi wedyn yn digwydd ennill y Loteri mewn 20 mlynedd, fe fuasai’n bosib i gyn-ŵr neu gyn-wraig wneud cais, yn enwedig os oes yna blant.

“Mae pob achos yn wahanol, ond fel arfer y mwyaf o amser sydd wedi mynd heibio, llai o hawl fyddai [i’r arian], yn enwedig os ydi unrhyw blant wedi tyfu fyny.”