Mae Arlywydd yr Wcráin wedi dweud bod ei fyddin a’r gwrthryfelwyr sy’n cael cefnogaeth gan Rwsia wedi tynnu y rhan fwyaf o’u gynnau mawr o’r rheng flaen yn y dwyrain, gan gydymffurfio gyda llawer o delerau’r cadoediad.

Dywedodd Petro Poroshenko wrth sianel deledu yn yr Wcráin bod rhywfaint o arfau trwm yn parhau i fod mewn lle ym maes awyr Donetsk, fodd bynnag.

Bydd y newydd diweddaraf yn rhoi hwb i ymdrechion i ddod â diwedd pendant i’r gwrthdaro sydd wedi lladd mwy na 6,000 ac wedi gweld 1.5 miliwn o bobl yn ffoi o’u cartrefi.

Mae cadoediad yn cael ei oruchwylio gan gannoedd o swyddogion y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, sydd wedi cwyno am ddiffyg cydweithrediad gan y ddwy ochr.