Mae McDonald’s wedi cyhoeddi gostyngiad o 4% mewn busnes yn yr Unol Daleithiau ym mis Chwefror.
Mae’r cwnni bwyd cyflym wedi beio’r gostyngiad ar “gystadleuaeth ffyrnig.”
Dywedodd y cwmni hefyd fod gwerthiant byd-eang wedi gostwng 1.7% a bod gwerthiant yn Asia, y Dwyrain Canol ac Affrica, wedi gostwng 4.4%. Yn Ewrop, mae cynnydd o 0.7% wedi bod.
Mae McDonald’s, sydd a’i bencadlys yn Oak Brook, Illinois, yn ceisio adfywio ei ddelwedd wrth i’r gystadleuaeth dyfu ac wrth i chwaeth pobl newid.
Mae’r cwmni wedi addo gwneud newidiadau, a chafodd Steve Easterbrook ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol newydd yn gynharach eleni.