Blodau y tu allan i Ysgol Bro Morgannwg
Mae blodau a chrysau ysgol wedi cael eu gosod y tu allan i Ysgol Bro Morgannwg, Y Barri fel teyrnged i gofio am bobol ifanc gafodd eu lladd mewn damwain ffordd ym Mhowys.

Cafodd dau o ddisgyblion yr ysgol – Rhodri Miller a Corey Price, y ddau’n 17 oed ac o’r Barri – eu lladd wedi i ddau gar wrthdaro ar yr A470 ger y Storey Arms nos Wener.

Bu farw merch 17 oed o’r Barri, Alesha O’Connor, a dynes 68 oed o Ferthyr Tudful, Margaret Challis, hefyd ac mae tri pherson yn yr ysbyty – un mewn cyflwr difrifol a dau mewn cyflwr sefydlog.

Angylion

Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal yn yr ysgol y bore yma i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau, ac fe gafodd blodau a chrysau ysgol eu gosod ger derbynfa’r ysgol.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn credu bod nifer o geir wedi bod yn teithio mewn confoi ar adeg y ddamwain.

Mae ymchwiliad yn parhau.