Mae pedwar o ymosodiadau hunan-fomwyr wedi lladd o leiaf 54 o bobl ac anafu 143 yn Maiduguri, y ddinas yng ngogledd-ddwyrain Nigeria lle cychwynnodd y grŵp Islamaidd terfysgol Boko Haram.

Digwyddodd y ffrwydradau dros gyfnod o bedair awr mewn gwahanol leoliadau a oedd cynnwys marchnad bysgod a gorsaf fysiau.

Mae Boko Haram wedi taro Maiduguri sawl gwaith, gyda ffrwydradau ac ymosodiadau arfog ers i’r gwrthryfelwyr gael eu gorfodi allan o’r ddinas ar ôl sefydlu stad o argyfwng yn 2013.

Maiduguri yw prifddinas talaith Borno a’r ddinas fwyaf yng ngogledd-ddwyrain Nigeria, ac mae’n ganolwynt i wrthryfel Islamaidd sydd wedi lladd tua 12,000 o bobl mewn bron i chwe blynedd.