Baner IS - y Wladwriaeth Islamaidd
Mae’r grŵp militariadd eithafol Islamic State wedi cychwyn dymchwel safle archaeolegol hynafol pwysig yng ngogledd Irac, yn ôl awdurdodau’r wlad.

Mae dinas hynafol Hatra, 68 millitir i’r de-orllewin o ddinas Mosul, yn safle treftadaeth byd Unesco, a hi oedd prifddinas y deyrnas Arabaidd gyntaf. Yn ôl yr hanes, roedd hi wedi gwrthsefyll ymosodiadau gan y Rhufeiniaid yn 116 a 198 OC oherwydd ei muriau uchel trwchus.

Mae adroddiadau am bobl sy’n byw gerllaw’r safle wedi clywed dau ffrwydrad mawr heddiw cyn gweld peiriannau’n cychwyn dymchwel adeiladau’r ddinas 2,000 oed.

Mae IS wedi bod yn galw am waredu’r wlad o greiriau hynafol sydd yn eu barn nhw yn hyrwyddo eilun addoliaeth ac sy’n groes i’w dehongliad ffwndamentaidd nhw o gyfraith Islamaidd. Roedd fideo ar y we yn eu dangos yn malu creiriau yn amgueddfa Mosul, ac maen nhw wedi bod yn llosgi cannoedd o lyfrau a llawysgrifau prin.