Mae Heddlu Dyfed Powys, sy’n ymchwilio i ddamwain angheuol ar yr A470 ar Fannau Brycheiniog neitthiwr, wedi cyhoeddi bod pedwar bellach wedi marw.

Roedd dau ddyn o ardal y Barri – gyrrwr a theithiwr mewn VW Golf gwyrdd – wedi cael eu lladd wrth i’w car fod mewn gwrthdrawiad â VW du Estate rhwng Libanus a Storey Arms tua 10.15 neithiwr.

Bellach, mae dwy ddynes, a oedd ymhlith pump o bobl a gafodd eu hanafu yn y ddamwain, hefyd wedi marw. Roedd y naill yn teithio yn y car du, a’r llall yn y car gwyrdd.

Mae’r heddlu’n credu bod amryw o geir yn teithio gyda’i gilydd un ar ôl y llalll pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, er nad ydyn nhw’n credu bod y Golf du yn eu plith.

Arestio pump

Cafodd pum gyrrwr o’r cerbydau eraill – pob un yn 17 neu 18 oed – eu harestio ar amheuaeth o yrru peryglus, ac maen nhw’n dal yn y ddalfa.

Fe wnaeth y ffordd ailagor am 10am y bore yma.

Meddai’r Ucharolygydd Chris Curtis ar ran Heddlu Dyfed-Powys:

“Mae hwn yn ddigwyddiad trychinebus ac rydym yn cydymdeimlo â’r teuluoedd ar yr adeg anodd yma. Rydym yn gweithio gyda Heddlu De Cymru er mwyn rhoi cymorth i’r teuluoedd sydd wedi dioddef a hefyd i’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddynt.

“Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei ymchwilio’n llawn.”

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw dystion gysylltu â nhw ar 101.