Mae athletwr o Sierra Leone, a ddiflannodd ar ôl Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yr haf diwethaf, wedi cael ei arestio ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn byw ar strydoedd Llundain.
Jimmy Thoronka, 20 oed, yw rhedwr sbrint 100m cyflyma’r wlad fach yng ngorllewin Affrica sydd wedi cael ei tharo mor ddrwg gan Ebola.
Roedd wedi cael ei gyfweld gan bapur newydd y Guardian cyn iddo gael ei roi yn y ddalfa am 7 o’r gloch neithiwr am aros yn hirach ym Mhrydain nag oedd ganddo hawl yn ôl telerau ei fisa.
Meddai’r rhedwr wrth y papur:
“Ro’n i’n gobeithio ennill medal dros fy ngwlad. Ond yn ystod y Gemau fe ges i’r newyddion ofnadwy fod fy ewythr wedi marw, mae’n debyg o Ebola. Allwn ni ddim stopio crio. Roedd yn anodd dal ati i gystadlu, ond fe geisiais wneud hynny.”
Nid yw’n gweithio’n anghyfreithlon, nac yn hawlio budd-daliadau na llety, ac mae’n deall oblygiadau cyfreithiol aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl i’w fisa ddod i ben, ond dywed fod ei sefyllfa’n anobeithiol.
Colli ei deulu i Ebola
Ar ôl y Gemau roedd wedi aros am gyfnod gyda ffrindiau yng Nghaerlŷr, a chafodd wybod fod ei holl deulu agos wedi cael eu lladd gan Ebola.
Yn ddiweddarach, aeth i Lundain, lle mae wedi bod yn cysgu mewn parciau a bysiau nos, ac yn cardota am £1 gan bobl sy’n cerdded heibio i brynu sglodion.
“Fe mreuddwyd yw dod un o redwyr sbrint gorau’r byd, ond dw i ddim yn gweld sut y gall hynny ddigwydd ar hyn o bryd,” meddai.
Mae cannoedd o bobl wedi cysylltu â’r Guardian i gynnig eu cefnogaeth ac mae deiseb wedi cael ei chychwyn i’w gefnogi.