Milwr o'r Wcrain ger Artemivsk
Mae gwrthryfelwyr, sy’n cael cefnogaeth Rwsia, yn nwyrain yr Wcráin yn dweud eu bod nhw wedi dechrau tynnu eu harfau trwm yn ôl yn unol â chadoediad a gytunwyd rhwng y ddwy ochr.

Nid yw honiad Eduard Basurin, un o brif arweinwyr y gwrthryfelwyr, wedi cael ei gadarnhau hyd yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff sy’n goruchwylio’r ymladd yn nwyrain yr Wcráin na fyddai’n bosib iddo wneud sylw ar y mater nes iddo dderbyn adroddiadau ar ddiwedd y dydd.

Daeth y cadoediad i rym ar 15 Chwefror ac mae’n galw ar y ddwy ochr i dynnu eu harfau trwm o’r rheng flaen.

Yn y cyfamser mae pennaeth y Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop (OSCE) wedi dweud bod y cadoediad diweddaraf wedi arwain at “ostyngiad sylweddol” yn nifer yr ymosodiadau milwrol rhwng lluoedd y llywodraeth a’r gwrthryfelwyr.

Ond dywedodd bod rhai digwyddiadau wedi parhau o gwmpas tref Debaltseve, a gafodd ei gipio gan y gwrthryfelwyr wythnos ddiwethaf, ac ym maes awyr Donetsk, a gafodd ei gipio ym mis Ionawr.

Fe fydd gweinidogion tramor Rwsia, yr Wcráin, yr Almaen a Ffrainc yn cwrdd ym Mharis heddiw i drafod y sefyllfa ddiweddaraf yn nwyrain yr Wcrain.