Y Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt
Fe fydd ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw ar dreth newydd yng Nghymru sy’n ymwneud â chael gwared ar wastraff mewn safleoedd tirlenwi.
Bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar ei newydd wedd yn disodli Treth Dirlenwi’r DU o fis Ebrill 2018 ymlaen.
Bydd y pŵer datganoledig newydd yn golygu y bydd Cymru yn gallu moderneiddio’r dreth bresennol i “adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion Cymru”, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae’n un o’r o’r trethi newydd cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 o flynyddoedd.
“Mae’r Dreth Dirlenwi bresennol wedi bod gyda ni ers bron i ugain mlynedd ac rydyn ni’n awyddus i edrych am ffyrdd o foderneiddio sut mae’n cael ei gweinyddu, gan leihau’r baich ar fusnesau,” meddai Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.
Dengys amcangyfrifon Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer 2013-14 fod refeniw o £50miliwn ar gyfer y Dreth Dirlenwi yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 28 o safleoedd tirlenwi a 23 o weithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 19 Mai 2015.