Jack Straw a Syr Malcolm Rifkind
Mae’r ddau gyn ysgrifennydd tramor Jack Straw a Syr Malcolm Rifkind yn wynebu pwysau ychwanegol yn dilyn honiadau eu bod nhw wedi derbyn arian am eu hamser ar ôl cael eu ffilmio’n gudd.

Mae’r AS Llafur Jack Straw wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le ar ôl i’r Daily Telegraph honni ei fod wedi cymryd swydd gyda chwmni a oedd wedi ennill cytundeb gwerth £75 miliwn gan y llywodraeth ar ôl iddo lobio gweinidog ar ran y cwmni.

Yn y cyfamser mae Syr Malcolm Rifkind dan bwyso i gamu o’i swydd fel cadeirydd y pwyllgor seneddol sy’n goruchwylio asiantaethau cudd-wybodaeth (ISC). Roedd wedi awgrymu y gallai gael “mynediad defnyddiol” at bob llysgennad Prydeinig yn y byd oherwydd ei statws.

Mae’r ddau yn gwadu bod eu sylwadau i newyddiadurwyr o raglen Dispatches ar Channel 4 a’r Telegraph wedi torri rheolau’r Senedd ac maen nhw wedi cyfeirio’r achosion at y Comisiynydd Safonau Seneddol.

Mae Jack Straw wedi gwahardd ei hun o’r Blaid Lafur ac mae’r Blaid Geidwadol wedi atal y chwip gan Syr Malcolm Rifkind.

Mae’r gwleidydd Llafur Kim Howells, fu’n gyn gadeirydd yr ISC, wedi dweud ei fod mewn “penbleth” sut yr oedd Syr Malcom wedi cael amser am waith ychwanegol y tu hwnt i’w swydd.

Ond dywedodd mai mater i’r pwyllgor fyddai penderfynu a ddylai Syr Malcolm barhau yn gadeirydd, ac nid y Llywodraeth.