Cyngor Ceredigion
Fe fydd tridiau o streic gan athrawon Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth yn cychwyn heddiw.
Undeb NASUWT sy’n trefnu’r streic ac mae’n dod wedi i aelod o staff gael ei ddiswyddo ar ôl derbyn rhybudd terfynol ynghylch ymddygiad.
Fe fydd 22 o aelodau staff sy’n aelodau o’r undeb yn cerdded allan o’u gwaith dros y cyfnod.
Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion blynyddoedd 7-10, ond fe fydd gwersi blynyddoedd 11-13 yn parhau fel arfer.
‘Dewis olaf’
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT mai mynd ar streic oedd y dewis olaf, wedi i’r undeb “wneud popeth yn ei allu” i ddatrys y sefyllfa:
“Rydym yn edifar unrhyw drafferthion fydd y streic yn ei achosi i ddisgyblion a rhieni ond mae’n rhywbeth y gallen ni fod wedi ei osgoi.
“Cafodd y streic wreiddiol ar 9 Ionawr ei ohirio am ein bod ar ddeall y byddai’r ysgol yn trafod gyda’r awdurdod lleol cyn unrhyw ddiswyddiad.
“Ond yn hytrach, cafodd yr aelod ei ddiswyddo ac fe gaewyd pen a mwdwl ar y mater.
“Rydym yn ymateb i’r ffordd erchyll gafodd un o’n haelodau eu trin ac os nad ydym ni’n ymateb, mae pob aelod o staff yn yr ysgol, yn ogystal â phob ysgol ar draws yr awdurdod lleol, mewn peryg.”
Dywed Ysgol Penweddig a Chyngor Ceredigion eu bod nhw wedi eu siomi’n fawr gyda phenderfyniad yr athrawon i streicio.