Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd perchnogion cartrefi gofal yn fwy atebol am eu gwasanaethau o dan gyfraith newydd i gryfhau’r drefn ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion.
Bydd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy’n cael ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw, yn ei gwneud yn haws i arolygu gofal a chymorth yng Nghymru.
Mae’r ffigurau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod 1,780 o leoliadau gofal a chymorth cymdeithasol yn dod o dan y drefn reoleiddio gyfredol a mwy na 70,000 o staff yn gweithio yn y sector.
Y gobaith yw y bydd y mesur newydd yn trosglwyddo cyfrifoldeb oddi wrth y rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen yn unig, ac yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i gyflogwyr, perchnogion a chyfarwyddwyr y cwmnïau.
Yn ogystal bydd yn cynnwys cosbau cryfach am rai troseddau.
Adlewyrchu arferion cyfoes
“Mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi trawsnewid sylfaen ein gwasanaethau cymdeithasol, a nawr mae angen newid y system reoleiddio i adlewyrchu hyn,” meddai Mark Drakeford, fydd yn cyflwyno’r mesur yn y Cynllunio heddiw.
“Rydym wedi dysgu gwersi o Southern Cross, Canol Swydd Stafford, Winterbourne, Ymgyrch Jasmine ac achosion dadleuol eraill lle cafodd pobol mewn gofal eu hesgeuluso’n wael gan wasanaethau.
“Mae angen i ni sicrhau bod ein trefn reoleiddio yn adlewyrchu arferion cyfoes a’r newidiadau sy’n digwydd o hyd ym myd gofal cymdeithasol.”