Roger Lewis
Mae Roger Lewis wedi cyhoeddi ei fod am adael ei swydd fel prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru ar ôl Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Roedd Lewis, 60 oed, wedi ymuno gyda’r Undeb naw mlynedd yn ôl ar ôl gadael ITV Wales lle’r oedd yn rheolwr gyfarwyddwr.

Fe fydd yn gadael ei swydd ar 31 Hydref. Dywedodd yr Undeb y byddan nhw’n dechrau chwilio am olynydd ar unwaith.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, mae Cymru wedi ennill tair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gan gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011 – eu perfformiad gorau ers 1987.

“Dyma’r amser iawn i fi gamu o’r swydd ar ôl cyfnod anhygoel wrth y llyw yn Undeb Rygbi Cymru,” meddai Roger Lewis mewn datganiad gan yr Undeb.

“Mae wedi bod yn daith wych a chofiadwy, ar ac oddi ar y cae.

“Hoffwn ddiolch i fwrdd yr Undebam eu cefnogaeth yn ystod rhai cyfnodau heriol a fy nghydweithwyr sydd wedi bod yn hynod o gefnogol, yn bersonol ac yn broffesiynol.

“Rwy’n hynod o falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni dros y naw mlynedd diwethaf.”

Dywedodd cadeirydd yr Undeb, Gareth Davies, eu bod yn cydnabod “cyfraniad enfawr Roger Lewis i dwf rygbi Cymru.”

‘Penderfyniad gwych’

Wrth ymateb i’r newyddion bore yma fe ddywedodd cyn-ganolwr Cymru Tom Shanklin fod Roger Lewis wedi gwneud “penderfyniad gwych” yn penodi Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru.

Cafodd Gatland ei benodi yn 2007 ar ôl Cwpan y Byd trychinebus i Gymru, a mynd ymlaen i ennill Camp Lawn y flwyddyn ganlynol.

Roedd Cymru eisoes wedi ennill un Gamp Lawn yn 2005 o dan reolaeth Mike Ruddock, blwyddyn ar ôl i Roger Lewis gymryd yr awenau fel prif weithredwr.

Llwyddodd y tîm i ennill Camp Lawn arall yn 2012 yn ogystal â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

“Cyn gynted ag yr arwyddodd e Gatland fe enillon ni Gamp Lawn ac fe aethon nhw ‘mlaen i ennill rhagor felly roedd hwnna’n benderfyniad gwych gan Roger,” meddai Shanklin, oedd yn rhan o dimau buddugol Cymru yn 2005 a 2008.

Moffett yn croesawu’r ymadawiad

Fodd bynnag doedd pawb ddim yn hapus â chyfnod Roger Lewis wrth y llyw, gyda llawer yn ei feio ef am y ffrae rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau a’r clybiau.

Un o’r cyhuddiadau cyffredin yn erbyn yr Undeb oedd eu bod wedi arallgyfeirio gormod o arian tuag at ad-dalu’r ddyled ar Stadiwm y Mileniwm, yn lle buddsoddi mewn rygbi ar lefelau lleol a rhanbarthol.

David Moffett oedd prif weithredwr yr Undeb cyn Roger Lewis, ac ers hynny mae e wedi bod yn feirniadol iawn o’i olynydd ac wedi gwneud ymgais aflwyddiannus i’w ddisodli llynedd.

“Mae’n fater o ryddhad a dweud y gwir [fod Roger Lewis yn mynd], mae’n rhoi cyfle i rygbi yng Nghymru symud yn ei blaen,” meddai David Moffett ar Radio Wales.

“Rydyn ni wedi aros sbel am hyn, ac fe ddylai hyn wedi digwydd dwy neu dair blynedd yn ôl. Bydden i’n dychmygu bod y person cyffredin yn eithaf balch gyda’r newyddion heddiw.

“Mae’n amlwg nad yw rygbi yng Nghymru wedi cael ei redeg yn dda dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf.”

Ychwanegodd bod lleihau dyled Undeb Rygbi Cymru wedi cael effaith andwyol ar y clybiau ar lawr gwlad.

“Dw i’n cael trafferth meddwl am unrhyw beth mae e wedi ei gyflawni yn y swydd,” meddai Moffett.

“Un peth y byddai e’n dweud yw ei fod wedi lleihau’r ddyled, ac mae hynny wedi bod yn ddinistriol i rygbi yng Nghymru, achos tra bod y ddyled i lawr, mae rygbi ar lawr gwlad yn parhau i fod yn dlawd.”