Jamie Roberts
Mae is-hyfforddwr Cymru Shaun Edwards wedi mynnu fod yn rhaid i Jamie Roberts ganolbwyntio ar gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar y penwythnos, er gwaethaf adroddiadau am ei ddyfodol ar lefel clwb.
Yn ôl adroddiad gan WalesOnline heddiw mae Racing Metro yn barod i ryddhau’r canolwr o’i gytundeb, sydd yn rhedeg nes haf 2016, flwyddyn yn gynnar.
Gallai hynny olygu bod Roberts yn dychwelyd i Gymru cyn Cwpan y Byd, ac fe gyfaddefodd Shaun Edwards y byddai’n hoffi ei weld yn dod nôl mewn byd delfrydol.
Ond mynnodd yr hyfforddwr nad oedd wedi siarad â Roberts am y peth, a’i fod eisiau canolbwyntio ar y Chwe Gwlad am nawr.
Teithio i Baris
Bydd Cymru’n herio Ffrainc ym Mharis dydd Sadwrn gan obeithio cadw eu gobeithion o ennill y Chwe Gwlad yn fyw.
Mae Jamie Roberts yn gyfarwydd iawn â’r brifddinas honno eisoes gan mai dyna ble mae’n chwarae dros ei glwb.
Ond petai Racing Metro yn penderfynu ei ryddhau mae’n annhebygol y byddai prinder cynigion gan Roberts, gan gynnwys cytundeb deuol posib gan Undeb Rygbi Cymru.
“A bod yn onest dw i jyst eisiau i Jamie ganolbwyntio ar un peth yr wythnos hon, a Ffrainc yw hwnna, dyna yw un o’r rhesymau pam dw i heb siarad gydag e am y peth,” meddai Edwards.
“Mae’n rhaid iddo fe fod yn meddwl am (Mathieu) Bastareaud, (Yoann) Huget a’i waith ef o arwain ein hamddiffyn ni’r wythnos hon.
“Mae e wedi bod yn chwarae’n dda iawn. Yn yr hydref, roeddwn i’n meddwl ei fod e’n edrych fel un o ganolwyr gorau’r byd.
“Ond mae’n help mawr (cael y chwaraewyr nôl yng Nghymru), does dim dwywaith am hynny.”
Enwi’r tîm
Bydd Warren Gatland yn enwi’r tîm i wynebu Ffrainc dydd Mawrth ac mae disgwyl y bydd George North a Samson Lee nôl yn y tîm.
Fe fethodd y ddau ohonyn nhw’r fuddugoliaeth dros yr Alban yn y gêm ddiwethaf ar ôl cyfergydion yn erbyn Lloegr, ond mae’r ddau bellach yn holliach.
Mae’r tîm hyfforddi, fodd bynnag, yn wynebu penbleth wrth benderfynu a fydd Liam Williams neu Alex Cuthbert yn haeddu cadw’u lle yn y llinell ôl os yw North yn dychwelyd.
“Pan chi’n dewis o garfan iach, rydych chi wastad am orfod gwneud penderfyniadau anodd,” meddai Shaun Edwards.
“Mae’n well na chael y cur pen arall, ble rydych chi’n cael trafferth dod o hyd i chwaraewyr.
“Mae’n dynn [o ran dewis y tri ôl]. Warren sydd yn dewis y tîm, ond roeddwn i’n ddigon hapus gyda’r tri ôl yn yr Alban. Fe weithion nhw’n dda gyda’i gilydd.
“Ond mae’n rhaid i ni gofio pa mor dda mae George wedi bod dros y blynyddoedd. Mae’n rhaid ystyried hynny, ac fe fyddwn ni’n ystyried y penderfyniad yn ofalus.”