Catrin Edwards
Mae prop Cymru Catrin Edwards yn mynnu nad yw llwyddiant diweddar tîm merched Cymru wedi digwydd dros nos, a’i fod mewn gwirionedd yn ffrwyth “blynyddoedd” o waith caled.
Mae’r tîm wedi ennill eu dwy gêm agoriadol yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni ac yn teithio i Ffrainc nos Wener gan obeithio’i gwneud hi’n drydedd fuddugoliaeth o’r bron.
Does dim dwywaith mai’r fuddugoliaeth o 13-0 dros Loegr oedd yr un mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn, yn enwedig o gofio bod y Saeson wedi ennill Cwpan y Byd llynedd.
Ac mae Catrin Edwards yn mynnu bod yn rhaid diolch i dimau a hyfforddwyr y gorffennol am osod y seiliau i ferched Cymru heddiw.
“Mae rhywbeth bach yn wahanol eleni, ni wedi clicio fel tîm,” esboniodd y prop 34 oed wrth golwg360.
“Ond fi’n meddwl bod angen i ni dal ystyried dros y blynyddoedd ein bod ni wedi bod yn adeiladu fel sgwad.
“Mae e’n cymryd amser, ac mae’n rhaid i ni fod yn ddiolchgar i’r cyn-chwaraewyr a’r cyn-dîm hyfforddi sydd ‘di bod gyda ni.
“Mae e jyst wedi bod yn broses o adeiladu dros y blynyddoedd. Roedd e’n mynd i ddigwydd, a ni ‘di bod yn lwcus gyda’r ddwy gêm gyntaf ein bod ni ‘di chwarae’n dda fel tîm.”
Anghofio am y gwrthwynebwyr
Gyda 61 o gapiau, mae Catrin Edwards bellach yn un o bennau profiadol y garfan.
Ac mae’n cyfaddef bod tîm merched Cymru wedi bod yn euog yn y gorffennol o ganolbwyntio gormod ar geisio atal eu gwrthwynebwyr rhag chwarae, yn hytrach na chanolbwyntio ar eu gêm eu hunain.
Ddim eleni, fodd bynnag – ac mae hynny diolch i’r hyfforddwr Rhys Edwards a’i dîm.
“Fi’n meddwl ein bod ni’n canolbwyntio arnom ni fel tîm nawr,” meddai Catrin Edwards, sydd yn athrawes Addysg Gorfforol o ddydd i ddydd.
“Yn y blynyddoedd o’r blaen roedden ni’n edrych ar sut oedd gwledydd eraill yn chwarae, ac edrych i weld sut i’w taclo nhw, sut i osgoi cael nhw i chwarae fel maen nhw’n ei wneud.
“Ro’n i’n siarad gyda’r hyfforddwr wythnos diwethaf am hyn, achos roedd e o hyd yn gofyn am adborth oddi wrth y chwaraewyr.
“Nawr ni’n edrych ar sut rydyn ni’n gwella fel tîm, a’r unig beth r’yn ni ‘di bod yn ei wneud ym mhob ymarfer yw gweithio ar ein tactegau ni, yn lle sut i stopio pobl eraill.
“R’yn ni’n canolbwyntio ar wella ein perfformiad ni, rydyn ni ‘di gwneud hynny lot, ac mae e wedi gweithio.”
Dangos esiampl
Catrin Edwards sgoriodd gais cyntaf Cymru yn erbyn Lloegr yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth eleni, gan arwain drwy esiampl i rai o’r chwaraewyr llai profiadol yn y garfan.
Roedd y fuddugoliaeth honno’n hwb seicolegol anferth i’r tîm.
“Mae Lloegr yn bencampwyr byd, mae gyda nhw sgwad mor enfawr, cymaint o chwaraewyr i ddewis ohonyn nhw,” meddai Catrin Edwards.
“Jyst i stopio nhw rhag chwarae yn y gêm gyntaf ‘na, mae e wedi rhoi hyder i ni a jyst dangos i ni fod ni’n gallu’i wneud e.”
Fe fydd her nesaf y merched yn ne Ffrainc nos Wener, ond mae Catrin Edwards yn mynnu fod y garfan ifanc yn hyderus o’u gallu.
“Mae gennym ni dîm eithaf ifanc heblaw am tua phedair ohonom ni, ond mae ‘na hyder yn y tîm,” ychwanegodd.
“Er bod gyda ni Ffrainc i ddod, does neb yn mynd ‘mlaen amdano fe, does dim gormod o hyder chwaith.
“Mae pawb yn edrych ‘mlaen at y gêm, ond ni ddim yn siarad gormod amdani, ni jyst eisiau ymarfer a gwella ein perfformiad ni.”