Auschwitz
Mae dyn 94 oed o’r Almaen wedi cael ei gyhuddo o 3,681 o achosion o gynorthwyo llofruddiaethau yn sgil honiadau ei fod wedi gwasanaethu mewn gwersyll Natsiaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr erlyniad yn yr achos, Stefan Urbanek, bod y dyn yn gyn-filwr fu’n gweithio fel meddyg mewn ysbyty yn Auschwitz yn 1944 ac y bu’n cynorthwyo gyda llofruddiaethau fel rhan o’i swydd.
Mae’n un o 30 o bobol sy’n cael eu cyhuddo wedi i ymchwilwyr ffederal argymell bod awdurdodau yn yr Almaen yn eu herlyn o dan gyfraith newydd.
Mae’r amddiffyniad yn gwadu bod tystiolaeth gref i brofi bod y dyn wedi cyflawni’r troseddau.