Elfyn Llwyd AS
Fe fydd gwelliannau i gryfhau cyfreithiau creulondeb yn erbyn plant yn cael eu cyflwyno gan yr Aelod Seneddol Elfyn Llwyd yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
Pe bai’n llwyddiannus byddai’r gwelliant yn ymestyn y ddeddfwriaeth bresennol i warchod pobol ifanc 16 ac 17 oed sy’n wynebu risg o greulondeb a chamdriniaeth, yn ogystal â phlant.
Wrth siarad cyn y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd AS Plaid Cymru: “Rwy’n rhannu pryderon mudiadau megis y Children’s Society na ddefnyddiodd y llywodraeth y cyfle i warchod pobol ifanc 16 ac 17 oed rhag creulondeb a chamdriniaeth yng nghamau cynnar y mesur hwn,” meddai.
“Diben fy ngwelliant yw ailgynnau’r ddadl ar y mater er mwyn newid Deddfau Plant 1933 a 1989 i sicrhau gwell gwarchodaeth i bobol ifanc yr oed yma.”
Bydd Elfyn Llwyd hefyd yn croesawu trosedd newydd o reolaeth orfodol sy’n cael ei chyflwyno fel rhan o’r mesur yn dilyn ymgyrch yn y Senedd dros y flwyddyn ddiwethaf.
“O hyn allan bydd dioddefwyr rheolaeth orfodol – a all gynnwys camdriniaeth emosiynol a seicolegol – yn cael gwarchodaeth gryfach gan y gyfraith. Rwy’n falch iawn o fod wedi chwarae rhan mewn llunio a chyflwyno’r drosedd newydd hon,” meddai.