Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ladron dorri i mewn i eglwys yng Nglyn Ebwy dros y penwythnos.

Cafodd popty ac eitemau o fwyd eu dwyn o Eglwys Carmel ar Ffordd Partridge, Y Cendl ac fe gafodd difrod ei achosi i’r adeilad, yn ôl yr heddlu.

Credir fod y lladron wedi torri i mewn rhywbryd rhwng 15 a 21 Chwefror.

Mae’r eglwys wrthi’n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu â’r heddlu ar 101.