Y Canghellor George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne yn wynebu “cwestiynau difrifol” am fanc HSBC meddai’r Blaid Llafur.
Mae Ed Balls wedi cael caniatâd i ofyn cwestiwn brys yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw wedi iddi ddod i’r amlwg fod prif weithredwr banc HSBC, Stuart Gulliver, wedi derbyn tâl a thaliadau bonws o £7.6miliwn y llynedd, er gwaethaf cwymp o 17% yn elw’r banc.
Nid oedd Stuart Gulliver wrth y llyw ar adeg yr honiadau bod HSBC yn y Swistir wedi helpu cwsmeriaid cyfoethog i osgoi talu trethi, ac fe gafodd £500,000 yn llai o fonws y llynedd oherwydd methiannau rheoli yn ymwneud â dirwy a gafodd y banc am dwyll.
Ond dywedodd y Blaid Lafur y bydd maint y bonws mae Stuart Gulliver wedi derbyn yn “syfrdanu’r” cyhoedd ac maen nhw’n galw am ddiwygiadau ehangach o’r diwydiant bancio.
Mae’r blaid hefyd wedi rhoi pwysau ar George Osborne i ateb cwestiynau am beth oedd o’n ei wybod am helynt HSBC a phenderfyniad Llywodraeth y DU i wneud cyn bennaeth y banc, yr Arglwydd Green, yn weinidog.
Mae’r cwestiwn brys wedi cael ei roi gerbron y Canghellor, ond nid yw’r Trysorlys wedi cadarnhau pwy fydd yn ateb ar ran y Llywodraeth hyd yn hyn.