Mae’r gwasanaeth tân yn ceisio diffodd tân mewn adeilad gwag yn Sblot yng Nghaerdydd.

Cafodd y frigâd dan eu galw tua 12:40 prynhawn ma. Nid yw’r adeilad, hen neuadd bingo,  yn cael ei ddefnyddio rhagor a does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.

Dywed Heddlu’r De bod tua 80 o ddiffoddwyr tân yn y lleoliad ar Stryd Pearl yn Sblot a bod to’r adeilad wedi dymchwel.

Cafodd pobl eu symud o adeiladau cyfagos ac mae trigolion lleol wedi cael eu cynghori i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau, ac i aros yn eu cartrefi.

Mae ffyrdd cyfagos gan gynnwys Stryd Agate, Stryd Pearl a Heol Sblot wedi cau am y tro.

Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y tân.