Cerbyd arfog lluoedd yr Wcrain
Mae ymosodiadau parhaus gan wrthryfelwyr yn golygu nad yw lluoedd arfog Wcráin yn gallu tynnu eu harfau trwm o’r rheng flaen yn nwyrain y wlad, dywedodd llefarydd ar ran byddin yr Wcráin heddiw.

O dan y cadoediad a gafodd ei gytuno yn gynharach y mis hwn, roedd y ddwy ochr wedi dweud y byddan nhw’n symud eu harfau trwm o’r rheng flaen.

Fodd bynnag, dywedodd Anatoliy Stelmakh o fyddin yr Wcráin heddiw na fyddan nhw’n symud eu harfau trwm nes bod ymosodiadau gan wrthryfelwyr sy’n cael cefnogaeth gan Rwsia yn stopio’n gyfan gwbl, yn unol â’r cadoediad a ddaeth i rym ar Chwefror 15.

Dywedodd Anatoliy Stelmakh bod dau ymosodiad arall wedi bod dros nos a “thra bod ymosodiadau’n parhau ar safleoedd lluoedd yr Wcrain, nid yw’n bosib trafod tynnu nôl.”