Y Gweinidog Addysg Huw Lewis
Mewn llythyr agored at y Gweinidog Addysg heddiw, mae dros ddwsin o unigolion a sefydliadau wedi erfyn ar Huw Lewis i newid y cwricwlwm fel bod pob plentyn yn dod yn rhugl yn Gymraeg.
Daw’r alwad cyn i adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm gael ei gyhoeddi’r wythnos hon.
Ymysg llofnodwyr y llythyr agored mae’r Archdderwydd Christine James, sydd wedi dysgu Cymraeg, ynghyd â phrif swyddogion Mudiad Meithrin, Cynghrair Cymunedau Cymraeg, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru a’r undeb athrawon UCAC.
Rhugl
Wrth gyfeirio at y cwricwlwm newydd, meddai’r llythyr: “Cytunwn [gyda’r Llywodraeth] fod angen ei wreiddio ar werthoedd Cymru, gwerthoedd o degwch a chydraddoldeb i bob plentyn – o ba gefndir bynnag y dônt.
“Fel mudiadau a phobl sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o ddydd i ddydd, rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r adroddiad yn bwriadu gwireddu uchelgais y Prif Weinidog, a nodwyd ganddo ym mis Awst y llynedd, sef bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus.”
“Cytunwn yn llwyr â Carwyn Jones y dylai pob plentyn ddod yn rhugl yn y Gymraeg – nid yw’n deg amddifadu’r un plentyn o’r sgil o allu cyfathrebu yn yr iaith. Rydym yn hynod o falch bod yr Athro Donaldson eisoes wedi awgrymu y bydd y Gymraeg yn un o egwyddorion craidd ei argymhellion ar gyfer y cwricwlwm newydd.
“Tra’n credu na ddylid amddifadu unrhyw blentyn o addysg Gymraeg, rydym yn gwbl gefnogol o argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies ynghylch sut mae’r iaith yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld sut mae Graham Donaldson yn argymell gweithredu’r cynigion hynny cyn gynted â phosibl.”
‘Cyfle gwych’
Meddai Penri Williams, cadeirydd y grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg: “Mae’r llythyr yn dangos pa mor bwysig mae’r maes yma i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu dros y cyfnod nesaf o amser.
“Mae’n adeg gyffrous iawn gan fod y Prif Weinidog wedi gwneud yr ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn gallu siarad y Gymraeg yn hyderus. Mae cwricwlwm newydd yn gyfle gwych i sicrhau bod y Gymraeg yn etifeddiaeth gyffredin i bob un plentyn yn y wlad.”