Mae’r oerfel sydd wedi taro’r Unol Daleithiau ar hyn o bryd wedi achosi i raeadrau Niagra Falls rewi’n gorn.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r rhaeadrau rewi, ac mae’r atyniad naturiol poblogaidd, sydd ar y ffin rhwng America a Chanada, yn denu hyd yn oed mwy o dwristiaid na’r arfer yn ôl adroddiadau.

Mae’r Niagra Falls yn gyfuniad o dair rhaeadr lle mae 567,811 litrau o ddŵr yn disgyn bob eiliad.

Ar hyn o bryd, mae haen drwchus o rew ar y dŵr ac ar bob arwyneb cyfagos, gan gynnwys coed a cherrig.

Roedd y tymheredd wedi disgyn i -23C yno heddiw gyda disgwyl i’r tywydd oer barhau am ddyddiau eto.