Alexis Tsipras (PA)
Bydd Gwlad Groeg yn parhau i drafod cytundeb tros fenthyciadau ariannol gan wledydd Ewrop a dod â’r ansicrwydd ynglŷn â’r wlad a’r ewro i ben.
Mae disgwyl i lywodraeth asgell chwith y wlad ollwng rhai o’i gofynion er mwyn dod i gytundeb ond mae’r Almaen sydd wedi beirniadu’r cynigion diweddara’ o Athen.
Maen nhw’n dweud eu bod fel y ceffyl pren yng Nghaerdroia yn cuddio’r ffaith y byddai Groeg yn y pen draw yn osgoi ei hymrwymiadau.
Trydydd cyfarfod
Bydd Gweinidogion Cyllid ardal yr Ewro yn cynnal eu trydydd cyfarfod mewn wythnos heddiw ar ôl i Athen wneud cais am chwech mis arall o cymorth ariannol.
Er fod hynny’n groes i addewidion a wnaeth wrth iddo ennill etholiad cyffredinol y wlad ym mis Ionawr, dywedodd Prif Weinidog newydd Groeg, Alexis Tsipras, y byddai’n anrhydeddu oblygiadau’r dyled ac yn cytuno i oruchwyliaeth gan wledydd yr Ewro a Banc Canolog Ewrop.
Yn hwyr neithiwr, siaradodd Alexis Tsipras gydag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande a Changhellor yr Almaen Angela Merkel ar ôl i’r Almaen feirniadu cynnig Groeg am fethu â chynnig ffordd arall o ddileu dyledion y wlad.