Cyhoeddodd L
Lesley Griffiths
lywodraeth Cymru eu bod am fenthyg £5 miliwn i awdurdodau lleol dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gwella canol rhai o drefi ledled Cymru.
Bydd yr arian yn cael ei fenthyca i saith o awdurdodau lleol am hyd at 15 mlynedd i’w wario yng nghanol trefi Tredegar, Rhymni, ardal Grangetown Caerdydd, Llanelli, Y Rhyl, Caernarfon a’r Barri.
Mae pob un o’r trefi’n rhan o ardaloedd Trechu Tlodi’r Llywodraeth a’r nod yw rhoi hwb i dwristiaeth a busnesau lleol.
Y manylion
Fe fydd gan yr awdurdodau hawl i brynu ac adnewyddu adeiladau gwag sydd ar y farchnad agored a chynnig benthyciadau i berchnogion tai, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, “Mae canol trefi yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd y gymuned, a bydd y benthyciad hwn yn helpu i wella’r ardaloedd sydd ei angen fwyaf.”
Roedd yna groeso i’r cyhoeddiad gan y Cynghorydd Neil Moore ar ran Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru er ei fod yn pwysleisio mai swm cymharol fychan yw hwn – ychydig tros £700,000 i bob awdurdod.
Fe fyddai angen iddyn nhw ddefnyddio’r arian i gynhyrchu incwm er mwyn ailfuddsoddi hwnnw hefyd, meddai.