Fe allai cefnogwyr Chelsea wynebu carchar a dirwy o hyd at €45,000 (£33,000) os ydyn nhw’n cael eu canfod yn euog o hiliaeth ar ôl digwyddiad ym Mharis nos Fawrth.

Ddoe fe gafodd fideo ei rannu’n eang oedd yn dangos cefnogwyr Chelsea yn gwthio dyn du oddi ar drên Metro yn y ddinas, cyn canu slogan hiliol.

Roedd y cefnogwyr pêl-droed yn y ddinas i wylio Chelsea yn chwarae Paris St Germain yng nghystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr.

Ac mae heddlu Ffrainc a Phrydain bellach yn cydweithio i geisio adnabod y rheiny gafodd eu dal ar y fideo.

‘Angen eu cosbi’

Mae’r fideo, gafodd ei dynnu gan Brydeiniwr o’r enw Paul Nolan sydd yn byw ym Mharis, yn dangos y cefnogwyr yn gwthio’r dyn du oddi ar y trên ddwywaith.

Yna mae’r camera yn mynd yn agosach, gan ddal wynebau rhai ohonynt wrth iddyn nhw ganu “We’re racist, and that’s the way we like it.”

Mae’r dyn gafodd ei wthio, sydd yn cael ei adnabod gan yr heddlu fel Souleymane S, bellach wedi gwneud cwyn swyddogol ac wedi dweud bod angen “cosbi” y rheiny oedd yn gyfrifol.

Dywedodd wrth bapur newydd Le Parisien nad oedd e’n deall beth oedd y cefnogwyr Chelsea yn ei ddweud i ddechrau gan nad oedd yn siarad Saesneg.

Ond chafodd e ddim ei synnu ar ôl darganfod beth yn union gafodd ei ddweud.

“Rydw i’n byw gyda hiliaeth,” meddai Souleymane S. “Doeddwn i ddim wedi synnu gyda beth ddigwyddodd, hyd yn oed os mai dyma oedd y tro cyntaf ar y Metro.

“Rwy’n bwriadu siarad â mudiadau gwrth-hiliaeth. Mae angen ffeindio’r bobl yma, y cefnogwyr Saesnig yma, a’u cosbi.”

Darganfod y dynion

Mae heddlu Prydain nawr yn ymchwilio i weld a allan nhw roi gwaharddiad pêl-droed i’r cefnogwyr hynny sydd yn cael eu gweld yn y fideo.

Ymysg y bobl sydd wedi condemnio ymddygiad y cefnogwyr yn y fideo mae’r Prif Weinidog David Cameron a’r cyflwynydd teledu Gary Lineker.

Mae un cefnogwr eisoes wedi cael ei adnabod fel Josh Parsons, 21 oed, sydd yn gweithio yn y Ddinas, ac mae lluniau hefyd wedi ymddangos ohono yn sefyll ochr yn ochr â Nigel Farage.

Ond does dim awgrym eto fod Josh Parsons yn cael ei amau o wthio na chanu sloganau hiliol, dim ond bod yr heddlu yn awyddus i siarad ag ef fel tyst.

Dywedodd un cefnogwr 17 oed oedd ar y trên, Mitchell McCoy, fod y dyn du wedi cael ei wthio am ei fod yn gefnogwr PSG, a bod eraill hefyd wedi cael eu gwthio oddi ar y trên gan gefnogwyr Chelsea am fod y cerbyd yn llawn.

Mynnodd hefyd nad oedd cefnogwyr wedi canu slogan hiliol at y dyn du, ond fod y gân yn hytrach yn cyfeirio at gapten Chelsea John Terry – gafodd ei wahardd yn 2012 am ddefnyddio iaith hiliol tuag at chwaraewr arall.