Jess Fishlock
Dyw’r ymosodwr Jess Fishlock ddim wedi cael ei henwi yng ngharfan merched Cymru ar gyfer Cwpan Istria.

Fe enwodd y rheolwraig newydd Jayne Ludlow 22 o chwaraewyr heddiw ar gyfer y twrnament cyfeillgar yng Nghroatia ym mis Mawrth, ond doedd y cyn-gapten ddim yn eu plith.

Mae Ludlow bellach wedi awgrymu ei bod wedi gadael Fishlock allan er mwyn cael golwg ar rai chwaraewyr newydd.

Yr amddiffynnwr Sophie Ingle yw’r capten newydd, a’r ymosodwr Natasha Harding yw’r is-gapten. Mae’r garfan hefyd yn cynnwys saith chwaraewr sydd heb ennill cap eto dros Gymru.

Y chwaraewyr allai ennill eu cap cyntaf yn y crys coch yng Nghwpan Istria yw Alice Evans, Ffion Price, Cori Williams, Charlie Estcourt, Rachel Rowe, Melissa Fletcher, ac Emily Hollinshead.

Fishlock yn ymateb

Mewn neges ar Twitter fe ddywedodd Fishlock ei bod hi’n llongyfarch Harding fel y capten newydd, ond ei bod hi wedi bod ar gael ar gyfer y twrnament a’i bod hi’n “siomedig” na chafodd hi ei dewis.

Mynnodd fodd bynnag ei bod dal ar gael i chwarae dros Gymru yn y dyfodol petai Ludlow yn ei dewis hi.

Cafodd Fishlock, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i Frankfurt, ei henwi yn Chwaraewraig y Flwyddyn Cymru yn 2014 am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan Istria 3-12 Mawrth:

Gôl-geidwad: Alice Evans (Academi Bryste); Jo Price (dim clwb)

Amddiffynwyr: Kylie Davies (Merched Reading FC); Loren Dykes (Academi Bryste); Nicola Cousins (Merched Yeovil Town); Nia Jones (Merched Dinas Caerdydd); Kayleigh Green (Merched Dinas Caerdydd); Lauren Townsend (Academi Bryste); Sophie Ingle (Academi Bryste); Ffion Price (Merched Cyncoed); Cori Williams (Merched Dinas Caerdydd)

Canol cae: Angharad James (Academi Bryste); Laura-May Walkley (Merched Reading FC); Helen Bleazard (Merched Yeovil Town); Michelle Green (Merched Dinas Caerdydd); Sarah Wiltshire (Merched Manchester City); Charlie Estcourt (Merched Reading FC); Rachel Rowe (Merched Dinas Abertawe)

Ymosodwyr: Natasha Harding (Washington Spirit); Helen Ward (Merched Reading FC); Melissa Fletcher (Merched Reading FC); Emily Hollinshead (Merched Everton).